Sut ydw i'n trwsio fy acen?
Shwmae bawb,
Dw i di dysgu ers 2 flynedd nawr, ond dw i di dechrau sylwi bod fy acen yn mynd o'r De, i hanner ffordd rhwng De a'r Gogledd. Bellach, dw i'n swnio fel cymysgedd o'r ddau. Er enghraifft, weithiau na i ddefnyddio geiriau o'r De a'r Gogledd yn yr un brawddeg, neu ddweud 'be' neu 'dach' yn lle 'beth' neu 'dych'.
Felly, beth yw'r ffordd orau i drwsio hyn? Ydw i angen, beth bynnag? Fasai dy helpu di'n grêt ♥️