r/AnarchaiddYGogledd

▲ 3 r/AnarchaiddYGogledd+1 crossposts

Ar aildalu cymunedau a wnaeth diwidianau Gogledd Cymru manteisio.

Fel cymuned tlodach nag llawer o prydain dyddiau yma, fysa llawer ddim yn gredu bod roedd gogledd cymru ar un dro hefo llawer o werth trwy llechi ag siwgr ynglyn a pethau eraill, ond siwgr yw'r peth a nowni talu sylw tuag at ar yr eiliad.

Yn ol cymeriadau fel Arglwydd Penrhyn, wnaeth ardaloedd y Caribiaid gael ei fanteisio am llawer, yn enwedig y plantaethau siwgr a wnaeth llawer o bres yr arglwydd dod o, er rwan, mae cymunedau yr caribiaid yn llawer tlodach nag fysa nhw gallu fod, ddim i ddweud bod mae nhw'n hollol tlawd wrth gwrs, ond fel gogledd cymru, mae llawer dyddiau yma yn gadael dim ond er helyntion pres ac antegrwch, dylsa ni fel un cymuned a wnaeth un-dro manteisio oddi wrth cymunedau nhw, cymryd rhyw fath o cyfrifoldeb, ac rhoi yn nol.

Y gwestiwn sy'n codi ydi, os di cymuned ni'm yn rhedeg ar pres, be gedra ni rhoi yn dol? Digon syml, ma deunyddiau yn gostio i phob cymuned sy rhedeg ar pres, a felly be fysa ni yn gallu wneud ydi rhoi deunyddiau spar a dani'm yn defnyddio i'r ardaloedd yma, i allu nhw i adeiladu am ddim fewn ffordd, heb gostau deunyddol, neu lleihad o gostau, mi'n gadael yr ardaloedd adeiladu yn rhatach, a bellach wedyn tyfu.

A be fysa chi feddwl er syniadau fel hyn?

reddit.com
u/psychologiacallygrey — 5 days ago